(llun: PA)
Mae panel sy’n edrych ar gyflogau cynghorwyr yng Nghymru wedi penderfynu rhoi codiad cyflog o £100 i’w cyflogau blynyddol o £13,000.

Penderfynodd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar y cynnydd ar ôl ystyried y cyfyngiadau ariannol ar lywodraeth leol.

Mae’r codiad yn cyfateb i tua 0.75% i gyflogau cynghorwyr, a bydd y newid yn dod i rym yn syth wedi’r etholiadau lleol dechrau mis Mai.

Nid oes cynnydd i gynghorwyr sydd ar gyflogau uwch, fel Aelodau Cabinet ac yn y blaen.

‘Angen codi cyflogau’

Mae rhai o’r farn y dylid codi cyflogau cynghorwyr yn sylweddol er mwyn denu mwy i wneud y gwaith.

“Dw i’n gwneud y job llawn amser, ond dw i’n lwcus iawn efo fy sefyllfa i oherwydd fy mod i ddim yn talu rhent na morgais ar hyn o bryd,” meddai’r cynghorydd Llafur, Siôn Jones, o Gyngor Gwynedd, yn ddiweddar.

“I wneud y job yn iawn, mae’n swydd llawn amser. Felly os ydych chi eisiau denu mwy o bobol i’r swydd, mae’n rhaid i chi godi’r cyflog i fod yn gyflog teg i’r gwaith rydych chi’n ei wneud.

“Gallai fod yn swydd llawn amser wedyn i rywun, nid swydd fel pension boost i rywun sydd wedi ymddeol.”