Kim Howells (Llun: golwg360)
Mae cyn-Aelod Seneddol Pontypridd a fu’n weinidog yn llywodraethau Tony Blair, wedi beirniadu arweinydd presennol y Blaid Lafur, gan ddweud ei fod yn “dda i ddim”.

Roedd Kim Howells yn cael ei holi am ei yrfa wleidyddol mewn sesiwn ym Mhrifysgol Bangor nos Iau (Chwefror 23), ar yr un diwrnod ag yr oedd dau is-etholiad yn cael eu cynnal yn Lloegr – fe gollodd Llafur etholaeth Copeland i’r Torïaid, ond llwyddo i ddal gafael ar Stoke-on-Trent.

“Dw i wedi nabod y boi ers 35 mlynedd… a dw i’n siwr ei fod e’n Aelod Seneddol da iawn tros Islington,” meddai Kim Howells a’i dafod yn ei foch.

“Dw i’n meddwl ei fod e’n dda i ddim, yn hollol useless, ac mae wedi amgylchynu ei hun gyda phobol sydd un ai â’u llygaid eu hunain ar yr arweinyddiaeth, neu bobol sy’n atgyfnerthu ei farn e ar bethau.

“Ond cofiwch hyn: mae o wedi cael ei ethol ddwywaith, gyda mwyafrif anferth. Felly y Blaid Lafur yw’r un sydd â’r broblem, nid jyst Corbyn. Os ydi pobol yn pleidleisio drosto, problem y blaid yw hynny.

“Mae’r blaid a fi mor bell oddi wrth ei gilydd nawr – wna’ i byth roi’r gorau i fod yn aelod, sa i’n credu – ond mae hi mewn sefyllfa ddespret iawn.

“Mi ddylai Llafur fod ugain o bwyntiau ar y blaen mewn polau piniwn,” meddai wedyn, “oherwydd mae arweinydd y Ceidwadwyr yn newydd ac yn dal i geisio ffeindio’i thraed… ond yn lle hynny, rydyn ni ugain o bwyntiau ar ei hôl hi!

“Tra bod Jeremy Corbyn yn arweinydd, does gan y blaid Lafur ddim gobaith o ennill Etholiad Cyffredinol. A does yna ddim pwynt bod yn San Steffan oni bai eich bod chi’n gallu ennill etholiadau.

“Fe allwch chi gael amser da, fe allwch chi draddodi areithiau gwych, a ffaffian o gwmpas yn cario eich eidioleg a’ch cydwybod ar eich llawes… ond os nad ydych chi’n ennill, does dim pwynt o gwbwl.”

John Smith, y Prif Weinidog na fu

Yn ystod cyfnod byr John Smith yn arweinydd y teimlodd Kim Howells fod yna “heddwch” a threfn oddi mewn i’r blaid. Fe ddaeth yr Albanwr i’r swydd yn mis Gorffennaf 1992 i olynu Neil Kinnock, ond bu farw o ganlyniad i drawiad ar y galon ym mis Mai 1994.

“Am y tro cynta’, ro’n i’n teimlo bod yna drefn ar y blaid,” meddai Kim Howells, “ac mi fyddai wedi bod yn ddiddorol gweld sut Brif Weinidog y byddai John wedi’i wneud. Fe aeth i’r afael â newid trefniadaeth y blaid, cario ymlaen lot o’r gwaith yr oedd Neil Kinnock wedi’i ddechrau, ond fe wnaeth fwy na hynny hefyd…

“Roedd iechyd John yn fregus, fregus, ac mae’n wir na wnaeth e edrych ar ei ôl ei hunan fel ag y dylai. Ond fe yw’r Prif Weinidog na fu yn hanes y Blaid Lafur, roedd o’n un anian â Tony Blair mewn llawer o ffyrdd, a phan ddaeth Blair i’w olynu, roedd pethau mor llyfn, chawson ni ddim rhyw drawma mawr oddi mewn i’r blaid.”

Hunan-hyder Tony Blair

Y tro cynta’ i Kim Howells gyfarfod Tony Blair oedd mewn rali wleidyddol fawr yn Y Barri ar noson Etholiad Cyffredinol 1992. Aelod Pontypridd oedd y llais ar yr uchelseinydd, yn cyflwyno’r cyn-chwaraewr rygbi, Cliff Morgan, a fyddai yn ei dro’n cyflwyno’r siaradwyr… ac wrth ochr y llwyfan, roedd yna ddyn ifanc yn cymryd lot fawr o sylw mewn darnau o bapurach.

“Fe ddylen ni fod wedi ennill Etholiad 1992,” meddai Kim Howells, wrth edrych yn ôl ar golled fawr Neil Kinnock dan law y Ceidwadwyr dan arweinyddiaeth John Major.

“Yr hyn rwy’n gofio yw gweld dyn yn cymryd lot fawr o sylw mewn ystadegau yr oedd o’n eu derbyn o bob cwr o’r wlad. Fe drodd ata’ i a dweud yn dawel, ‘Sa i’n credu ein bod ni’n mynd i’w gwneud hi’. Tony Blair oedd y dyn hwnnw, ac roedd hi’n amlwg fod ganddo ffordd wahanol o fesur barn y bobol.”

Ond ar wahân i gymryd diddordeb mewn ystadegau, roedd gan Tony Blair hefyd un peth na all neb ei brynu, meddai Kim Howells – a’r peth hwnnw oedd hyder yn ei allu a’i bersona ei hun.

“Beth bynnag mae neb yn feddwl ohono, mae yna ddiddordeb a chwilfrydedd mawr yn y person o hyd,” meddai. “Tra’r oedd o yn Rhif 10, roedd ganddo ei gylch ei hun – a doeddwn i ddim yn y cylch cyfrin – ac roedd yn dal gafael tynn ar yr hyn oedd yn mynd allan i’r wasg a’r cyfryngau.

“Pan ges i swydd ganddo yn weinidog yn y Swyddfa Dramor, dyna pryd sylweddoles i nad y swyddfa honno oedd yn gyfrifol am bolisi tramor. Rhif 10 oedd yn gwneud hynny. Roedden nhw wedi gwneud yn siwr o hynny…

“Ond peidiwch â meddwl fod Tony Blair yn rhedeg pethau’n llyfn,” meddai Kim Howells wedyn. “Roedd ganddo uffach o foi tyff yn byw drws nesa’ iddo (Gordon Brown) a doedd e ddim yn un i gymryd dim lol.”