Bydd y Blaid Lafur a’i harweinydd, Jeremy Corbyn, yn wynebu her fawr heddiw wrth i is-etholiadau gael eu cynnal mewn dwy o gadarnleoedd y blaid.

Mae is-etholiadau yn cael eu cynnal yn Copeland yn Cumbria, ac yn Stoke-on-Trent – gyda’r blaid Geidwadol ac UKIP yn brwydro’n galed am y seddi.

Daw’r cystadlaethau yn sgil ymddiswyddiadau dau gyn-Aelodau Seneddol Llafur, Jamie Reed a Tristram Hunt.

Byddai buddugoliaeth i’r blaid Lafur yn dystiolaeth bod Jeremy Corbyn wedi llwyddo i ailgysylltu â chefnogwyr traddodiadol y blaid yn dilyn pleidlais Brexit.

Y ddwy etholaeth

Tybed a fedr y Ceidwadwyr gipio Copeland, sedd sydd wedi bod yn nwylo Llafur ers 1983? Mae cefnogaeth i Lafur wedi gwanio. Mae’r etholaeth yn ddibynnol yn economaidd ar orsaf prosesu niwclear Sellafield ac mae safiad Jeremy Corbyn ar ynni niwclear yn debygol o fod yn amhoblogaidd yno.

UKIP fydd yr her bennaf yn Stoke Central, etholaeth sydd wedi pleidleisio tros Lafur ers 1950 ond wnaeth bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm. Arweinydd UKIP, Paul Nuttall fydd yn cystadlu am y sedd, ond mae’n bosib bydd sgandal ddiweddar tros honiadau ffug am ei gysylltiad â thrychineb Hillsborough yn rhwystr.