Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno Mesur yn San Steffan heddiw fydd yn arwain at newidiadau mawr i garchardai yng Nghymru a Lloegr.

Trwy gyflwyno’r Mesur Carchardai a Llysoedd bydd modd i lywodraethwyr reoli cyllidebau, ac mi fydd tablau perfformiad carchardai yn cael eu creu.

Mae ail droseddu yn costio £15 biliwn pob blwyddyn, a gobaith y Llywodraeth yw rhoi mwy o bwyslais ar addysgu carcharorion yn hytrach na chosbi yn unig.

Wrth drosglwyddo rheolaeth dros gyllidebau addysg, cyflogaeth a iechyd i’r llywodraethwyr, bydd disgwyl iddyn nhw fynd i’r afael â phroblemau cyffuriau ac i addysgu eu carcharorion.

Daw’r mesur sydd yn cyfuno nifer o ddiwygiadau, yn sgil cynnydd yn lefelau trais, hunanladdiad ac aflonyddwch o fewn carchardai.

Cyfle i newid

“Dylai carchardai fod yn gyfrifol am gosbi pobol sydd wedi bod troseddi’n ddifrifol ond hefyd dylai fod carchardai yn cynnig y cyfle i droseddwyr newid eu bywydau am y gorau,” meddai Ysgrifennydd Cyfiawnder Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Elizabeth Truss.

“Dylai disgyblaeth a gwaith caled cael eu hannog yn ein carchardai a dylwn roi’r pŵer i ein staff i fedru cynorthwyo carcharorion i osgoi cyffuriau ac i wella eu sgiliau Saesneg a Mathemateg.”

Bydd y mesur hefyd yn cryfhau pŵer llysoedd i fedru atal dioddefwyr trais domestig rhag cael eu cwestiynu gan eu hymosodwyr mewn llysoedd ac yn ehangu darpariaeth gwrandawiadau llys dros fideo.