Suzy Davies
Mae’r newyddion bod sianel deledu newydd ar ei ffordd i’r Alban, yn “sarhau” newyddiadurwyr a threthdalwyr Cymru, yn ôl yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Suzy Davies.

Mewn datganiad, dywedodd y llefarydd diwylliant: “Mae’n anodd dod i unrhyw gasgliad arall o gyhoeddiad yr Alban na bod gan y BBC lawer llai o feddwl o ddarlledu yng Nghymru.

“Mae’r anghydbwysedd llwyr yn yr arian sydd wedi’i roi i Gymru – bron bedair gwaith yn llai na’r Alban – yn sarhad i newyddiadurwyr a threthdalwyr Cymru.

“Yn wyneb hyn, rydym yn annog y BBC i ail-ystyried eu pecyn i Gymru, a’i ddod yn nes at yr hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban, ac yn nest at y ffigwr o £30 miliwn a gafodd ei argymell gan Bwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad cyn penderfyniad y BBC.

“Mewn tirlun sydd mor gyfyng o ran y cyfryngau, mae BBC Cymru’n chwarae rhan anferth wrth adrodd am faterion Cymreig a rhaid i hyn gael ei adlewyrchu’n gywir yn y ffordd y caiff ei ariannu.”