Rhai o'r protestwyr yn Llundain cyn trafod y Mesur (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae protestiadau’n cael eu cynnal yn San Steffan heddiw wrth i’r Arglwyddi ddechrau’r broses o graffu ar y mesur i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gweithwyr Ewropeaidd gan gynnwys nyrsys, gweithwyr cymdeithasol a chynorthwywyr dosbarth wedi ymgynnull i lobïo am eu hawl i aros yn y Deyrnas Unedig.

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi cymryd y cam anarferol o eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi heddiw i glywed y dadleuon.

Mae Theresa May wedi rhybuddio nad yw hi am weld ymgais i ohirio neu atal y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, sef “yr hyn mae pobl Prydain ei eisiau”, gan ddweud fod y mesur wedi’i gymeradwyo heb welliannau gan Dŷ’r Cyffredin.

“Rwy’n gobeithio y bydd Tŷ’r Arglwyddi yn talu sylw i hynny,” meddai’r Prif Weinidog.

Mae disgwyl y bydd yr Arglwyddi yn cynnig gwelliannau i’r mesur fydd yn arwain at danio Erthygl 50, gydag arweinydd Llafur yn Nhŷ’r Arglwyddi’n dweud ei bod am geisio pleidlais i ASau cyn cloi’r trafodaethau.

‘Cadw at yr amserlen’

Mae disgwyl i 190 o Arglwyddi siarad yn ystod y deuddydd nesaf, gyda phleidlais yr wythnos nesaf.

Mae llefarydd ar ran Stryd Downing wedi cydnabod fod gan yr Arglwyddi “rôl gyfansoddiadol bwysig”, ond mae Theresa May wedi cadarnhau ei bod yn hyderus y bydd y mesur yn cael ei gymeradwyo’n unol â’i hamserlen o danio Erthygl 50 erbyn Mawrth 31.

Is etholiad Stoke

Fe ddaw sylwadau Theresa May wrth iddi ymweld â Stoke-on-Trent heddiw cyn yr isetholiad ddydd Iau wedi i’r AS Llafur, Tristram Hunt, ymddiswyddo.

Ymgeisydd UKIP yn yr etholaeth yw arweinydd y blaid, Paul Nuttall, ac ym mis Mehefin fe wnaeth 65% o’r etholaeth bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llafur yn wynebu isetholiad arall yn Copeland ger Ardal y Llynnoedd yr un diwrnod.