Llun: PA
Mae Theresa May wedi cael rhybudd o’r newydd am yr anawsterau mae hi’n ei wynebu yn y trafodaethau Brexit gydag Ewrop wrth i Dy’r Arglwyddi baratoi i drafod Mesur Erthygl 50 a fydd yn dechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gweinidog yr Undeb Ewropeaidd o Tsiecoslofacia wedi rhybuddio’r Prif Weinidog y gallai’r trafodaethau fethu os nad yw Prydain yn barod i gyfaddawdu .

Cyn i’r trafodaethau ddechrau, mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth a fydd yn caniatau Theresa May i danio Erthygl 50 gael sêl bendith y Senedd. Bydd Ty’r Arglwyddi yn dechrau dadl ar y Mesur heddiw ac mae ’na rybudd eu bod yn barod i ddiwygio’r Mesur.

Barod i frwydro

Mae disgwyl i 190 o arglwyddi siarad yn ystod y deuddydd sydd wedi cael eu pennu ar gyfer ail ddarlleniad y Mesur yn Nhŷ’r Arglwyddi, y tro cyntaf i’r siambr uchaf drafod y ddeddfwriaeth.

Mae arglwyddi Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi awgrymu eu bod nhw’n barod i frwydro, gydag ymdrechion yn debygol o ganolbwyntio ar hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a hawl y Senedd i gael pleidlais ar gytundeb terfynol Brexit.

Mae Theresa May wedi rhoi addewid i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth ond mae’r Prif Weinidog wedi cael rhybudd nad ydy’r trafodaethau yn debygol o fod yn uniongyrchol.

Dywedodd y gweinidog Tomas Prouza o Tsiecoslofacia wrth The Guardian bod yn rhaid i negodwyr ar ran Prydain fod yn barod i gyfaddawdu ac os nad ydyn nhw’n fodlon gwneud hynny bydd y trafodaethau’n methu.