John Bercow (Llun: PA)
Mae aelod seneddol Ceidwadol blaenllaw wedi amddiffyn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow wrth iddo wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ar ôl ceisio atal Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump rhag ymweld â San Steffan.

Yn ôl Syr Nicholas Soames, mae gan John Bercow dueddiad o “leisio barn”, ond mae’r ymgais i’w symud o’i swydd “heb urddas”, meddai.

Yn dilyn ei sylwadau am Donald Trump, fe ddaeth fideo i’r golwg lle’r oedd John Bercow yn dweud wrth fyfyrwyr prifysgol ei fod e wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi codi amheuon am ei ddidueddrwydd fel Llefarydd.

Cafodd y cynnig o ddiffyg hyder ei gyflwyno cyn i’r senedd ddod i ben am gyfnod ddechrau’r mis, ond fe fydd yn cael ei drafod unwaith eto’r wythnos nesaf.

Dywedodd Syr Nicholas Soames na fyddai’n cefnogi’r naill ochr na’r llall yn y ddadl.

‘Fendeta’

Yn ôl Liz Kendall, un oedd wedi sefyll ar gyfer swydd arweinydd y Blaid Lafur pan gafodd Jeremy Corbyn ei ethol, mae gan rai aelodau seneddol Ceidwadol “fendeta” yn erbyn John Bercow.

Dywedodd wrth raglen ‘Peston on Sunday’ ITV: “Dw i ddim yn credu bod hyn yn ymwneud â’r hyn ddywedodd e am ymweliad gwladol, dw i’n credu bod fendeta yma.

“Mae nifer o Geidwadwyr sy jyst ddim yn ei hoffi e oherwydd mae e wedi gwneud y daith hon o ochr draw’r asgell dde i fod yn fwy rhyddfrydol ac mae e wedi bod yn radical, gan ddiwygio’r Llefarydd yn nhermau newid y traddodiadau.

“Dw i’n meddwl mai dyna sydd wrth wraid y peth a thrwy gael y cynnig hwn o ddiffyg hyder, dw i’n credu ei bod hi’n bosib eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad ac y bydd pobol yn cefnogi’r Llefarydd. Mi fydda i, yn sicr.”

Gwrthwynebiad i Donald Trump

Daeth i’r amlwg yr wythnos diwethaf fod John Bercow wedi derbyn mwy na 4,000 o negeseuon ynghylch ei agwedd at Donald Trump.

Roedd y rhan fwyaf (3,227) yn cydweld â’i safbwyntiau, tra bod 854 yn unig yn anghytuno, yn ôl ffigurau a gafodd eu cyhoeddi yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Ond mae’r aelod seneddol sydd wedi cyflwyno’r cynnig o ddiffyg hyder, James Duddridge yn hyderus na fydd unrhyw aelod Cabinet yn cefnogi’r Llefarydd.

Mae lle i gredu y bydd y Ceidwadwyr yn rhydd i bleidleisio yn ôl eu dymuniad unigol.