Paul Nuttall (Llun: PA/Stefan Rousseau)
Mae arweinydd UKIP, Paul Nuttall yn wynebu rhagor o gwestiynau heddiw am gywirdeb rhai o’r datganiadau ar ei wefan.

Ar ôl i’w wefan honni yr wythnos hon ei fod e wedi colli ffrindiau yn nhrychineb stadiwm Hillsborough yn 1989, fe ddaeth i’r amlwg bellach ei fod e’n honni ar yr un wefan ei fod yn aelod o fwrdd rheoli’r elusen hyfforddi NWTC (North West Training Centre).

Mae Paul Nuttall yn ymgeisydd yn is-etholiad Stoke, sy’n cael ei gynnal ddydd Iau.

Ond mae’r celwyddau honedig yn gysgod tros ei ymgyrch.

Mae’r NWTC yn gwadu ei fod e wedi bod yn aelod o’u bwrdd rheoli.

Roedd datganiad ar ei wefan yn honni ei fod e wedi cael gwahoddiad i ymuno â’r bwrdd yn 2009.

Dywedodd bryd hynny ei bod yn “anrhydedd” cael gwasanaethu’r bwrdd.

Ond yn ôl prif weithredwr NWTC, Paul Musa, dydy Paul Nuttall erioed wedi bod yn aelod o’r bwrdd.

Gwahoddiad

Ychwanegodd Paul Musa nad oedd e ychwaith wedi cael gwahoddiad i fod yn aelod o’r bwrdd ac nad oedd e erioed wedi cwrdd â’r aelodau.

Ond yn ôl llefarydd ar ran UKIP, roedd yr NWTC yn gwybod am y datganiad i’r wasg ar y wefan ar y pryd.

“Pe na bai’n wir, ydych chi’n credu na fyddai cwynion wedi bod ar y pryd?”

Jeremy Corbyn

Byddai buddugoliaeth i UKIP yn Stoke yn ergyd i’r Blaid Lafur, sydd wedi dal eu gafael ar y sedd ers iddi gael ei chreu yn 1950.

Ond wrth ymosod ar UKIP, dywedodd Jeremy Corbyn: “Beth maen nhw’n ei gynnig i bobol sydd angen tŷ? I blant yn yr ysgol? I bobol yn yr ysbyty? I’r rhai sydd angen gofal cymdeithasol? I’r rheiny sydd am gael swydd ddiogel? I bobol ifanc sydd am gael prentisiaeth neu’r cyfle i fynd i’r coleg neu’r brifysgol a gwneud y mwyaf o’u bywydau?

“Mae UKIP yn cynnig dim, dim, dim a dim eto i unrhyw un o’r grwpiau hynny oherwydd y cyfan maen nhw’n ei wneud yw masnachu ar ragfarn, beio lleiafrifoedd, rhannu cymunedau, bob amser yn beio rhywun arall.”

Dywedodd mai “agenda go iawn” UKIP yw preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd.

Gareth Snell yw ymgeisydd Llafur yn Stoke, ac mae e’n gobeithio adeiladu ar lwyddiant Tristram Hunt yn yr etholaeth.