Yn ôl Tony Blair mae’r ddadl dros annibyniaeth i’r Alban yn “llawer mwy credadwy” yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn araith, bydd y cyn-Brif Weinidog yn dweud bod y marc cwestiwn dros undod gwledydd Prydain bellach “nôl ar y bwrdd”.

Bydd yn annerch Open Britain, criw sy’n ymgyrchu yn erbyn “Brexit caled” a’r posibilrwydd o Brydain yn gadael y farchnad sengl Ewropeaidd.

Hefyd mae Tony Blair yn dadlau y dylai pobol newid eu meddyliau ar fater Brexit, gan eu bod wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd “heb wybod gwir dermau Brexit”.

Tori yn lladd ar Blair

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Tony Blair o fyw mewn byd “ffantasi unbenaethol” ac o geisio dweud bod pobol sydd o blaid Brexit yn “anwybodus”.

“Yr hyn mae Tony Blair wir yn ei ddweud fan hyn yw bod pobol a bleidleisiodd dros Brexit yn annysgedig, anwybodus, ac nad oes hyder ynddyn nhw i wneud penderfyniadau dros eu dyfodol eu hunain,” meddai Andrew RT Davies.

“Ym myd ffantasi unbenaethol Tony Blair, byddai’n parhau i gynnal refferenda tan i’r bobol bleidleisio yn un ôl â’i ddymuniad.

“Fel cymaint o bobol Llafur, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, mae Tony Blair allan ohoni ac mae’n dangos dirmyg tuag at y sawl sy’n anghytuno â’i olwg gwyrdroëdig o’r byd.”

Annibyniaeth “ar y bwrdd”

Yn ei araith, mae disgwyl i Tony Blair ddweud: “Mae’r posibilrwydd o rannu’r Deyrnas Unedig, a gafodd ei osgoi o drwch blewyn gan ganlyniad refferendwm yr Alban, bellach nôl ar y bwrdd. Ond erbyn hyn mae’r achos dros annibyniaeth llawer yn fwy credadwy.”

Mae Nicola Sturgeon wedi dweud bod galw refferendwm arall ar annibyniaeth yr Alban “bron yn anochel” pe bai Theresa May yn arwain y wlad ar drywydd Brexit caled.

Yn groes i Gymru, fe wnaeth yr Alban bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.