Gerard Coyne - yng Nghymru heddiw (llun o'i gyfri Twitter)
Mae swyddog undeb wedi defnyddio achos dur yng Nghymru i ymosod ar yr arweinydd y mae’n gobeithio ei guro mewn etholiad mewnol.

Fe allai’r ras i fod yn Ysgrifennydd Cyffredinol undeb mwya’ gwledydd Prydain, Unite, fod yn allweddol o ran dyfodol yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Ac mae’r ymgeisydd sy’n herio’r Ysgrifennydd presennol, Len McCluskey, wedi’i gyhuddo o boeni mwy am swydd Jeremy Corbyn nag am swyddi gweithwyr cyffredin.

Mae’r ymgeisydd, Gerard Coyne, yn ymweld â Chymru heddiw ac mae wedi beirniadu’r Blaid Lafur yn San Steffan am fethu â gwrthwynebu Brexit caled Llywodraeth Prydain – er fod papurau mewnol wedi dangos nad yw’r diwydiant dur yn flaenoriaeth amlwg ganddyn nhw.

Ymyrraeth wleidyddol ‘yn fethiant’

Roedd y blaid wedi mynd yn groes i farn Len McCluskey, er ei fod ef yn un o brif gefnogwyr Jeremy Corbyn ac er fod yr undeb wedi rhoi arian sylweddol i’w helpu.

“Yn gryno, mae ymyrraeth wleidyddol Len McCluskey wedi bod yn fethiant llwyr,” meddai. “Mae’n amser bellach i roi’r pwyslais ar agwedd sy’n canolbwyntio mwy ar ddiwydiant. A does yr un diwydiant â mwy o angen y newid yna na’r diwydiant dur.

“Mae Cymru’n neilltuol o agored i beryglon Brexit diffygiol – nid dim ond oherwydd y swyddi mewn dur., peirianneg a’r diwydiant awyr ond hefyd oherwydd pwysigrwydd masnach gyda Gweriniaeth Iwerddon.

“Rhaid i lais Cymru gael ei glywed.”

  • Roedd Len McCluskey wedi ymddiswyddo ddiwedd y llynedd er mwyn sbarduno etholiad, yn y gobaith o gael cefnogaeth glir am drydydd tymor wrth y llyw. Mae wedi cael cefnogaeth mwyafrif ffigurau amlwg yr undeb.