Michelle Brown - gwadu gwneud dim o'i le (Llun Cynulliad)
Dyw’r Cynulliad ddim wedi ymateb i gwestiwn yn holi a fydd ymchwiliad neu gamau disgyblu ar ôl honiadau fod swyddog wedi helpu un o aelodau cynulliad UKIP i addasu disgrifad swydd i siwtio ei brawd ei hun.

Mae’r Aelod Cynulliad tros Ogledd Cymru, Michelle Brown, wedi gwadu gwneud dim o’i le gan ddweud ei bod wedi dilyn cyfarwyddyd staff y Cynulliad.

Mae’r BBC yn dweud eu bod wedi gweld negeseuon rhwng Michelle Brown a’r swyddog a bod hwnnw neu honno wedi ei chynghori  er mwyn sicrhau bod ei brawd, Richard, yn gallu cael cyfweliad.

Roedd hynny’n cynnwys awgrymu dileu’r gofyn am un math o gymhwyster a gofyn i’w brawd pa gwymwysterau oedd ganddo.

‘Helpu aelodau’

Mewn datganiad, dywedodd y Cynulliad ei fod yn “gyfrifol” am helpu Aelodau Cynulliad i ddewis a recriwtio staff i’w helpu yn eu gwaith.

“Mae hyn yn cynnwys deall anghenion cymorth penodol yr Aelod dan sylw a chynghori ar fanylebau swyddi yn unol â’r polisi recriwtio,” meddai’r datganiad.

Dywedodd y llefarydd fod pobol yn cael eu penodi ar gyfer y swyddi hyn ar sail “cystadleuaeth deg ag agored [yn] seiliedig ar deilyngdod yn berthnasol i bob swydd sy’n cael ei hysbysebu ar gyfer staff cymorth Aelodau’r Cynulliad.”

Does gan Aelodau Cynulliad ddim hawl i fod ar y panel cyfweld os oes perthynas yn cynnig am swydd ond mae ganddyn nhw hawl i benodi staff am chwech mis heb hysbysebu’r swydd yn ffurfiol.

Codi cwestiynau

Cafodd brawd Michelle Brown, Richard Baxendale, ei gyflogi ganddi yn gweithiwr achos ar ôl iddi gael ei hethol ym mis Mai ond roedd yr hysbyseb swydd dan sylw yn chwilio am dderbynnydd a chynorthwy-ydd personol, gyda chyflog rhwng £18,536 a £24,593.

Er mai person arall a gafodd ei benodi yn y diwedd, fe fydd yr helynt yn codi cwestiynau eto a yw hi’n briodol i ACau gyflogi perthnasau.

Mae’n rhaid i Aelodau Cynulliad gyhoeddi hefyd os ydyn nhw’n cyflogi aelod o deulu neu bartner, gyda 12 o aelodau yn datgan hyn.

Cafodd adroddiad ei gyhoeddi yn 2009 yn argymell y dylai’r arfer o benodi aelodau o deuluoedd Aelodau Cynulliad ddod i ben.