Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow Llun: PA
Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow yn wynebu’r bygythiad mwyaf i’w awdurdod wrth i Aelodau Seneddol Ceidwadol alw arno i ymddiswyddo ar ôl iddo gyhoeddi ei fod wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm y llynedd.

Mae’n wynebu pleidlais o ddiffyg hyder wrth i ASau Ceidwadol ddadlau na fydd yn cael ei ystyried yn niwtral yn ystod dadleuon am Brexit yn y Senedd. Ond mae ASau’r gwrthbleidiau wedi dweud eu bod yn ei gefnogi.

Mae arweinydd Tŷ’r Cyffredin David Lidington wedi rhybuddio y bydd na ymateb “gref” i sylwadau diweddaraf John Bercow. Mewn fideo sydd wedi dod i law’r Sunday Telegraph, mae’n cael ei weld yn trafod gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol Reading ar 3 Chwefror ac yn cyfaddef ei fod pleidleisio o blaid aros yn rhan o Ewrop.

Roedd John Bercow eisoes wedi cael ei feirniadu am sylwadau a wnaeth am yr Arlywydd Donald Trump gan ddweud na fyddai croeso iddo annerch y Senedd yn ystod ei ymweliad gwladol.

Dywedodd llefarydd ar ran John Bercow ei fod wedi profi ei fod yn niwtral yn ystod dadleuon yn Nhŷ’r Cyffredin gan sicrhau bod dadleuon y ddwy ochr yn cael eu clywed.