Llun: PA
Mae angen newid diwylliant mewn carchardai er mwyn atal y nifer cynyddol o garcharorion sy’n lladd eu hunain, yn ôl adroddiad.

Dywed ymgyrchwyr bod angen newid “sylweddol” er mwyn helpu carcharorion i ail-hyfforddi ac ail-sefydlu eu hunain ar ôl gadael y carchar, yn hytrach na chosbi yn unig.

Mewn adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan y Ganolfan Iechyd Meddwl ac elusen yr Howard League mae prinder staff ac amgylchedd gwaith gwael i gyfrif am y trafferthion mewn carchardai.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Liz Truss wneud datganiad heddiw cyn i raglen Panorama’r BBC gael ei darlledu heno sy’n tanlinellu’r problemau yng Ngharchar Northumberland.