Ysgrifennydd Brexit David Davis (Llun: PA)
Mae Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis wedi cael ei feirniadu ar ôl dweud na fyddai’n cusanu’r aelod seneddol Llafur Diane Abbott gan nad yw’n “ddall”.

Mae lle i gredu ei fod e wedi ceisio ei chusanu, fodd bynnag, ond ei bod hi wedi ei wrthod yn y bar yn San Steffan.

Digwyddodd y ffrae ar ôl i’r Senedd bleidleisio o blaid tanio Cymal 50 er mwyn dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Negeseuon testun

Roedd David Davis wedi trafod yr helynt mewn cyfres o negeseuon testun at gydweithiwr, yn ôl y Mail on Sunday.

Dywedodd ei gydweithiwr mewn un neges: “Methu credu dy fod di wedi trio cofleidio DA!”

Atebodd David Davis: “Wnes i ddim, ond mae’r chwedl yn tyfu. Wnes i sibrwd yn ei chlust ‘Diolch am dy bleidlais. A dyna’r ‘F off’. Dw i ddim yn ddall.”

Dywedodd y byddai’r sefyllfa’n “gwneud hysbyseb da ar gyfer Optical Express”.

‘Jôc’

Mae llefarydd ar ran David Davis wedi ei amddiffyn, gan ddweud mai jôc oedd ei sylwadau “preifat”.

Ymddiheurodd ar ei ran am y “sarhad”, gan ychwanegu ei fod e’n parchu Diane Abbott.

‘Gwreig-gasaol’

Mae nifer o wleidyddion blaenllaw wedi beirniadu’r sylwadau, gan ddweud eu bod yn “wreig-gasaol”.

Dywedodd Chuka Umunna wrth raglen Sophy Ridge ar Sky: “Mae’n rhywiaethol, dw i’n credu ei fod yn wreig-gasaol… Mae’n warthus.”

Dywedodd “nad oes lle” i’r fath agwedd yn y byd gwleidyddol.