Mae Plaid Cymru yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o fod yn gwbl ddifater ynghylch dyfodol economi Cymru.

Mae ei honiadau’n seiliedig ar ddogfen gyfrinachol gan y llywodraeth sy’n nodi’r diwydiant dur fel ‘blaenoriaeth isel’ yn y trafodaethau Brexit, tra bod y banciau’n ddiwydiant â blaenoriaeth uchel.

“Mae’n warth o’r mwyaf gweld un o ddiwydiannau sylfaenol Cymru, sy’n werth dros £3 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn, yn cael ei ddiystyru fel un â blaenoriaeth isel,” meddai Adam Price AC, llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi a Chyllid.

“Fodd bynnag, dyw hyn yn ddim syndod gan fod yr argyfwng yn y diwydiant dur yn cael llai a llai o sylw ers i Theresa May ddod yn Brif Weinidog.

“Mae parhau yn y farchnad sengl yn dyngedfennol i’r diwydiant dur yng Nghymru, gan fod mwy na dau draean o allforion dur o Gymru yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd, a bydd Plaid Cymru’n dal i ymladd i amddiffyn swyddi.

“Mae’n amlwg na fydd buddiannau economi Cymru’n cael blaenoriaeth gan y Llywodraeth Dorïaidd hon yn San Steffan wrth iddi barhau i geisio Brexit caled dinistriol.”