Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur (llun: PA)
Rhybudd ysgrifenedig yn hytrach na’r sac y bydd aelodau o fainc flaen y Blaid Lafur yn ei gael am bleidleisio yn erbyn gorchymyn eu harweinydd Jeremy Corbyn yr wythnos yma.

Fe wnaeth 52 o Aelodau Seneddol anufuddhau i chwip eu plaid a phleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50 sy’n caniatáu i’r llywodraeth ddechrau trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl cyfarfod rhwng Jeremy Corbyn a’r Prif Chwip Nick Brown i drafod cosb addas ddoe, fe fydd y gwrthryfelwyr yn cael rhybudd terfynol na fyddan nhw’n cael aros yn y cabinet cysgodol os byddan nhw’n gwneud yr un peth eto.

Roedd amryw o aelodau, gan gynnwys Jo Stevens, y llefarydd ar Gymru, eisoes wedi ymddiswyddo o’r cabinet cysgodol er mwyn pleidleisio yn erbyn Erthygl 50, a bu’n rhaid i Jeremy Corbyn benodi ASau eraill yn eu lle.

Fodd bynnag, fe wnaeth 11 o weinidogion cysgodol a thri o’r chwipiaid aros yn eu swyddi gan anwybyddu gorchymyn eu harweinydd.