Christina Rees, ar y chwith, sy'n cymryd lle Jo Stevens (Llun y Senedd)
Yr aelod seneddol newydd, Christina Rees, sydd wedi’i phenodi’n llefarydd newydd y Blaid Lafur ar Gymru yn San Steffan.

Aelod Seneddol Castell Nedd, Christina Rees, yw’r pedwerydd person i ymgymryd â’r swydd dan arweiniad Jeremy Corbyn.

Mae’n olynu Jo Stevens o Ganol Caerdydd, a oedd wedi ymddiswyddo oherwydd cefnogaeth Llafur i broses Brexit, a hynny wedi dim ond tri mis yn y swydd.

Roedd Jeremy Corbyn wedi gorchymyn ei aelodau seneddol i gefnogi’r mesur i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ond roedd Jo Stevens wedi ymddiswyddo cyn hynny.

Yn eironig, fydd gweinidogion cysgodol eraill a bleidleisiodd yn erbyn – fel Kevin Brennan o Orllewin Caerdydd – ddim yn cael eu disgyblu.

Pleidleisiodd 52 Aelod Seneddol Llafur yn erbyn Mesur y Llywodraeth ar danio Erthygl 50 gan gynnwys 11 aelod o’r fainc blaen a tri o chwipiaid yr wrthblaid.

Pedwar dyrchafiad

Mae Christina Rees yn un o bedwar aelod seneddol a gafodd eu hethol am y tro cynta’ yn 2015 i gael ei dyrchafu i gabinet yr wrthblaid.

Roedd hi ac un arall – Suie Hayman – hefyd wedi pleidleisio tros AS Pontypridd Owen Smith pan oedd yn herio Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth.

Yn ôl sylwebyddion gwleidyddol, mae’r penodiadau – a’r diffyg disgyblu – yn arwydd o brinder y bobol sy’n fodlon gwasanaethu yng nghabinet cysgodol y Blaid Lafur.

Roedd Christina Rees yn briod â chyn-Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies, hyd at 2000.