Dafydd Elis-Thomas yn ei ddyddiau gyda Phlaid Cymru (Llun Plaid Cymru)
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi cael ei feirniadu am bleidleisio i ddechrau’r broses i adael yr Undeb Ewropeaidd heb sicrwydd y bydd Cymru’n aros yn aelod o’r farchnad sengl Ewropeaidd.

Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, fe fydd y penderfyniad yn “siom fawr” i’w etholwyr, oedd yn credu ei fod “o blaid cydweithio Ewropeaidd a deddfwriaeth amgylcheddol gryf.”

Mae’r feirniadaeth yn arwydd o’r drwgdeimlad rhwng y Blaid a’i chyn-arweinydd ers iddo efo droi cefn arni yn fuan wedi’r etholiad diwetha’ a throi at gefnogi’r Llywodraeth Lafur.

“Nid wyf am wneud unrhyw sylw ar ddadleuon gwleidyddol y grŵp y bûm yn aelod ohono,” meddai Dafydd Elis-Thomas wrth golwg360.

“Byddaf yn parhau i drafod yn gyson gyda chynrychiolwyr y diwydiant bwyd amaeth ac yn parhau a’r gwaith ar Dirweddau’r Dyfodol i Weinidogion Llywodraeth Cymru.”

Cefndir y ffrae

Fe ddaeth y bleidlais yn y Senedd ddydd Mawrth, ar ôl dadl ar berthynas Cymru a’r Undeb Ewropeaidd wedi i’r Deyrnas Unedig adael.

Roedd yn digwydd wrth i Dŷ’r Cyffredin bleidleisio tros ‘danio Erthygl 50’, y cymal sy’n golygu dechrau proses y Deyrnas Unedig o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe gynigiodd Plaid Cymru welliant a fyddai’n golygu bod y Cynulliad yn “gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd.”

Gwrthod y gwelliant

Cafodd y gwelliant hwnnw ei wrthod, gyda’r aelodau Llafur yn cael gorchymyn i bleidleisio o blaid y cynnig gwreiddiol, oedd yn nodi y dylai San Steffan “lwyr barchu” Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar y Brexit gorau i Gymru.

Er i Lafur bleidleisio o blaid, pleidleisio yn erbyn a wnaeth Kirsty Williams, o’r Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n Ysgrifennydd Addysg yng nghabinet Llywodraeth Cymru.