Dydi gweld aelodau etholedig Plaid Cymru yn y gogledd a’r de yn dadlau tros ddod â swyddi i’w hardaloedd eu hunain, “ddim yn broblem”, meddai Prif Weithredwr y blaid.

Yn ystod yr wythnosau diwetha’, mae Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad wedi mynd ben-ben tros ddau fater yn benodol – gydag Adam Price a Jonathan Edwards yn ardal Caerfyrddin yn dadlau tros leoli pencadlys S4C yno, tra bod gwleidyddion y gogledd-orllewin, Sian Gwenllian a Hywel Williams, yn dal i fynnu mai i Gaernarfon y dylai fynd.

Daw ei sylwadau hefyd ar ôl i’r Aelodau Cynulliad yn y gogledd, Llŷr Gruffydd a Siân Gwenllian, gondemnio penderfyniad Llywodraeth Cymru i leoli’r Awdurdod Cyllid newydd ar gyfer casglu trethi sydd wedi’u datganoli, yn ne Cymru.

Bydd yr Awdurdod newydd yn Nhrefforest, sydd y drws nesaf i etholaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn y Rhondda – penderfyniad sydd wedi gwyllio’r cynghorydd Plaid Cymru, Simon Brooks, yn wyneb colli swyddi Cymraeg o swyddfa dreth Porthmadog.

“Dyw e ddim yn broblem,” meddai Gareth Club wrth golwg360. “Yn amlwg, mae pobol aelod eisiau buddsoddiad a swyddi yn eu hardal nhw eu hunain.

“Mae’n hollol normal, dw i’n meddwl, i aelodau alw am i fuddsoddiad fynd i’w hardaloedd nhw.

“Mae’r blaid yn gytûn, yn gweithio’n dda iawn yn fewnol. Does dim cwympo mas o gwbwl,” meddai wedyn.