Mae Ysgrifennydd Brexit llywodraeth Prydain wedi rhybuddio aelodau Tŷ’r Arglwyddi i beidio â rhwystro’r mesur a fyddai’n caniatáu dechrau’r broses o adael Ewrop.

Mae David Davis wedi galw ar yr Arglwyddi i gyflawni eu “dyletswydd wladgarol”, a dywedodd rhai gwleidyddion Ceidwadol eraill y bydden nhw’n cefnogi “galwad ar i’r Tŷ gael ei ddiddymu” pe bai’r mesur yn cael ei rwystro yno.

Cyn bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May yn medru dechrau trafodaethau gadael Ewrop dan Erthygl 50 mae’n rhaid i’r mesur dderbyn cefnogaeth Tŷ’r Arglwyddi.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo ceisio newid y ddeddfwriaeth er mwyn ceisio sicrhau bod ail refferendwm yn cael ei chynnal.

Pan fydd y mesur yn dod i Dŷ’r Arglwyddi ar Chwefror 20, mae disgwyl bydd Arglwyddi Ceidwadol a Llafur sydd o blaid Ewrop hefyd yn ceisio ychwanegu newidiadau i’r mesur.

Tŷ’r Cyffredin

Yn dilyn pum diwrnod o drafodaethau yn Nhŷ’r Cyffredin, llwyddodd y mesur i gael ei basio heb unrhyw ddiwygiadau – gyda  494 yn pleidleisio o’i blaid a 122 yn erbyn.

Fe orfododd Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, ei blaid i bleidleisio tros y Mesur, ond fe aeth 52 o’i Aelodau Seneddol yn groes iddo. Yn eu plith, roedd wyth aelod o Gymru.