Fe fydd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru yn cyfarfod heddiw ag Is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop er mwyn trafod sut y gall Cymru barhau i fanteisio ar arian Ewrop.

Yn ystod ei ymweliad â Chymru, bydd Is-lywydd y Banc, Jonathan Taylor yn trafod â Mark Drakeford ynglŷn ag opsiynau buddsoddi yng Nghymru a pherthynas Llywodraeth Cymru gyda’r Banc yn y dyfodol wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi trafod ag Ewrop ynglŷn ag opsiynau ariannu nifer o brosiectau gan gynnwys adrannau pump a chwech o’r A465, band B o’r rhaglen Addysg, a phrosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Prosiect arall gall elwa o fuddsoddiad Ewropeaidd yw Grant Cyllid Tai 2 (HFG2), rhaglen fydd yn cyfrannu at gyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy newydd.

Un o flaenoriaethau Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru yw cynllun gwerth £230m ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre, fyddai’n diwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal canser ar draws y de.

Mae’r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Strategol gwerth €315 biliwn ac mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi bron i £2 biliwn dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mewn amrywiol brosiectau sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru.

Perthynas ag Ewrop i barhau

“Rydyn ni’n wynebu newidiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen i gyllid cyhoeddus, felly mae’n hanfodol bwysig i ni fanteisio ar bob cyfle i roi hwb i fuddsoddiadau mewn seilwaith yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford.

“Mae Cymru eisoes yn elwa’n sylweddol o’n perthynas hir gyda Banc Buddsoddi Ewrop, ac rydyn ni am weld hyn yn parhau ar ôl Brexit.”