Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio heno tros roi’r grym i Theresa May ddechrau ar y broses o dynnu gwledydd Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Wedi dau ddiwrnod o drafod sydd wedi gweld pobol yn gwylltio’n gacwn ar lawr Ty’r Cyffredin, fe fydd pob aelod yn cael bwrw’i bleidlais o blaid neu yn erbyn Mesur Brexit.

Ond fe allai pleidlais nos Fercher achosi mwy o helynt i arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wrth iddo geisio cadw trefn ar aelodau ei blaid ei hun.

Yr wythnos ddiwetha’, fe benderfynodd 47 o ASau Llafur oedd o blaid aros yn Ewrop, bleidleisio’n groes i gyfarwyddyd Jeremy Corbyn… ac fe allai mwy ddewis pleidleisio yn erbyn y Mesur y tro hwn.

Mwy yn mynd?

Trwy fynnu bod aelodau Llafur yn cefnogi’r Mesur, mae sylwebwyr yn awgrymu y gallai enwau mawr ymddiswyddo (fel Clive Lewis, aelod o gabinet Jerermy Corbyn).

Yr wythnos ddiwetha’, fe gafodd un o gyfeillion agosa’ Jerermy Corbyn, Diane Abbott, ei beirniadu am fethu â throi i fyny i’r bleidlais oherwydd ‘cur pen’, .

Fe ymddiswyddodd tair aelod arall o gabinet yr wrthblaid hefyd – Rachael Maskell, Jo Stevens a Dawn Butler, er mwyn gallu gwrthwynebu’r Mesur. Yn ogystal â deg o is-weinidogion, fe bleidleisiodd tri chwip yn erbyn y Mesur.