Theresa May (Llun: PA)
Mae Theresa May yn wynebu gwrthwynebiad gan aelodau’r meinciau cefn sy’n bygwth pleidleisio gyda Llafur a’r SNP ar Fesur Brexit.

Mae’r Mesur, sy’n amlinellu’r cynlluniau i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd i Dy’r Cyffredin ar gyfer tridiau o drafodaethau pellach gan roi cyfle i Aelodau Seneddol newid y ddeddfwriaeth.

Mae Ceidwadwyr sydd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd eisiau sicrhad y bydd y Senedd yn cael penderfynu beth fydd yn digwydd os yw trafodaethau Brexit yn methu heb gytundeb gyda’r 27 gwlad arall sy’n aelodau o’r undeb.