Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi gwrthod dweud beth fydd y gosb i aelodau seneddol y blaid sy’n penderfynu gwrthwynebu Mesur Brexit.

Mae lle i gredu y gallen nhw golli eu swyddi ar y meinciau blaen pe baen nhw’n gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Prydain i weithredu Cymal 50.

Doedd yr Aelod Seneddol Diane Abbott ddim wedi cael ei chosbi ar ôl bod yn absennol o’r trafodaethau ar gyfer ail ddarlleniad y Mesur yr wythnos diwethaf, ar ôl honni bod ganddi feigryn.

Bydd trydydd darlleniad o’r Mesur ddydd Mercher, ac fe allai Clive Lewis, llefarydd busnes y blaid ac un sy’n cael ei enwi fel arweinydd posib yn y dyfodol, hefyd bleidleisio yn ei erbyn.

‘Cwestiwn damcaniaethol’

Dywedodd Jeremy Corbyn wrth raglen ‘The World This Weekend’ ar BBC Radio 4 mai “cwestiwn damcaniaethol” yw holi a fydd aelodau seneddol sy’n gwrthdystio’n cael eu cosbi.

“Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn ystod yr wythnos,” meddai.

“Dw i’n berson trugarog iawn.”

Ond mae tri aelod o gabinet cysgodol y Blaid Lafur eisoes wedi ymddiswyddo oherwydd y mater – y llefarydd ynni Rachael Maskell, y llefarydd materion Cymreig Jo Stevens a’r llefarydd cydraddoldeb Dawn Butler.

Penderfynodd y tri ymddiswyddo fel bod modd iddyn nhw wrthwynebu’r Mesur.

Dydy hi ddim yn glir eto beth fydd tynged 10 o ddirprwy weinidogion a chwipiau a wrthdystiodd.