Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Mae miloedd o bobol yn gorymdeithio drwy Lundain i alw ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May dynnu ei gwahoddiad i Donald Trump yn ôl.

Cafodd e wahoddiad gan Lywodraeth Prydain, ond mae 1.8 miliwn o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am dynnu’r gwahoddiad yn ôl yn sgil ei agwedd at Fwslimiaid, a’i benderfyniad i’w gwahardd rhag teithio o saith gwlad i’r Unol Daleithiau.

Daeth y gwaharddiad i rym oriau’n unig ar ôl i Theresa May gyfarfod â Donald Trump yn yr Unol Daleithiau.

Yr orymdaith

Mae’r orymdaith wedi’i threfnu gan nifer o fudiadau ar y cyd, gan gynnwys ‘Stop the War Coalition’, ‘Stand Up to Racism’ a Chymdeithas Foslemaidd Prydain.

Dechreuodd yr orymdaith y tu allan i Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, ac mi fydd yn dod i ben yn Downing Street.

Mae protestiadau hefyd wedi cael eu cynnal mewn sawl maes awyr yn yr Unol Daleithiau.