George Osborne (Llun: PA)
Mae cofiant newydd i Theresa May yn awgrymu bod y cyn-Ganghellor George Osborne wedi talu’r pris am roi pwysau ar y cyn-Brif Weinidog David Cameron i’w diswyddo pan oedd hi’n Ysgrifennydd Cartref.

Pan ddaeth Theresa May yn Brif Weinidog, doedd dim lle i George Osborne yn ei chabinet cyntaf.

Mae lle i gredu bod George Osborne yn grac ynghylch diffyg cefnogaeth Theresa May i’r ymgyrch o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd cyn y refferendwm y llynedd.

Yn ôl y gyfrol Theresa May: The Enigmatic Prime Minister gan Rosa Prince, sy’n cael ei gyhoeddi fesul dipyn yn y Daily Mail, fe ddywedodd George Osborne wrth nifer o gydweithwyr y gallai agwedd Theresa May olygu y byddai hi’n colli ei swydd.

Ond yn ôl y cyn-aelod Cabinet Syr Eric Pickles, “mae hi wedi ei roi e yn ei le”.

Yn ôl cydweithiwr arall, “roedd e eisiau’r Swyddfa Dramor. Roedd peth sôn hyd yn oed y gallai aros yn y Trysorlys – fe fyddai e wedi gwneud hynny.”

Dim lle

Ond yn ystod sgwrs a barodd ddeng munud yn unig, fe gafodd e wybod gan Theresa May nad oedd lle iddo yn ei chabinet.

Dywedodd aelod presennol o’i chabinet nad oedd hi’n “gallu goddef” George Osborne.