Fe fydd aelodau seneddol yn pleidleisio heddiw ar y bil a allai ddechrau’r broses ffurfiol er mwyn i Brydain gael gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i’r ddeddfwriaeth a fydd yn galluogi’r Prif Weinidog Theresa May i weithredu Cymal 50 gael ei basio ar ôl i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn orchymyn ei blaid ei chefnogi.

Serch hynny, fe allai rhai aelodau’r blaid herio’r arweinydd gyda rhai ohonyn nhw’n wynebu cael eu diswyddo o’r fainc flaen pe baen nhw’n gwneud hynny.

Mae’r aelod seneddol o Gymru, Jo Stevens eisoes wedi ymddiswyddo o’i swydd fel llefarydd Cymru y blaid yn sgil y gorchymyn.

Wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth brynhawn ddoe, dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis fod Llywodraeth Prydain yn benderfynol o weithredu Cymal 50 erbyn mis Mawrth.

Daeth ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Prydain orfod mynd at y Senedd gyfan am sêl bendith yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yr wythnos ddiwetha’. Ond mae e wedi rhybuddio Aelodau Seneddol oedd o blaid aros na fyddan nhw’n gallu rhwystro’r ddeddfwriaeth.

Fe fydd yr SNP hefyd yn herio’r ddeddfwriaeth ar ôl i’w gwrthwynebiad gael ei dderbyn gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow.

Maen nhw’n dweud nad oedd digon o ymgynghoriad cyn y refferendwm.