Jo Cox AS (Llun: Yui Mok/PA)
Mae comisiwn rhyngbleidiol wedi lansio ymgyrch heddiw i fynd i’r afael ag unigrwydd.

Bydd Comisiwn Unigrwydd Jo Cox yn ymchwilio i effeithiau niweidiol unigrwydd ar bobol yn y Deyrnas Unedig a sut i ddatrys y problemau.

Cafodd y comisiwn ei sefydlu yn enw’r Aelod Seneddol Llafur Jo Cox, a oedd wedi dechrau’r broses o greu comisiwn o’r fath cyn iddi gael ei llofruddio yn ei hetholaeth ym mis Mehefin y llynedd.

“Epidemig tawel”

“Mae unigrwydd yn epidemig tawel dros y Deyrnas Unedig,” meddai cyd-gadeiryddion y comisiwn, Aelod Seneddol Llafur, Rachel Reeves a’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Seema Kennedy.

“Nawr yw’r amser i ddechrau trafodaeth. Rydym angen trafodaeth genedlaethol ynglŷn â maint ac effaith y broblem.”