Theresa May (Llun: Jonathan Brady/PA Wire)
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson a’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd i wneud ymholiadau am gynlluniau Donald Trump i wahardd Mwslimiaid rhag teithio i’r Unol Daleithiau.

Daeth cadarnhad o’r penderfyniad gan Downing Street yn dilyn sgwrs rhwng y tri fore dydd Sul, ac mae Theresa May yn awyddus i dynnu sylw at yr effaith y byddai’r cynlluniau’n ei chael ar drigolion Prydain.

Dywedodd llefarydd ei bod hi’n “hollol benderfynol” o ymateb i’r pryderon.

Roedd Boris Johnson eisoes wedi dweud bod y cynlluniau’n “anghywir”, gan feirniadu ymgais Donald Trump i wahaniaethu ar sail hil.

Ar hyn o bryd, does dim hawl gan drigolion o Irac, Libya, Somalia, Sudan, Syria na’r Yemen i deithio i’r Unol Daleithiau yn dilyn y gwaharddiad dros dro.

Yn gynharach, roedd Theresa May wedi cael ei beirniadu am ei diffyg ymateb i’r sefyllfa.