Nigel Farage (Llun: PA)
Mae Nigel Farage wedi galw am gyflwyno polisi ffiniau yng ngwledydd Prydain sy’n debyg i bolisi dadleuol Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Mae cyn-arweinydd UKIP wedi amddiffyn polisi Donald Trump o wahardd tramorwyr rhag teithio i’r Unol Daleithiau, gan ddweud bod hawl ganddo gyflwyno’r fath fesurau er mwyn atal brawychwyr posib rhag dod i mewn i’r wlad.

Yr Almaen sy’n cael y bai am y gwaharddiad gan Nigel Farage, a hynny yn sgil eu polisi “drws agored” o groesawu ffoaduriaid o’r Dwyrain Canol.

Dywedodd Nigel Farage wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Cafodd [Donald Trump] ei ethol er mwyn bod yn gadarn, fe gafodd ei ethol er mwyn dweud y byddai’n gwneud popeth o fewn ei allu i warchod America rhag mewnlifiad o frawychwyr Isis.

“Nawr mae saith gwlad ar y rhestr honno, mae hawl ganddo fe wneud hynny, cafodd ei ethol ar sail hyn.”

Tro pedol?

Mae sylwadau Nigel Farage yn awgrymu ei fod e wedi gwneud tro pedol, ar ôl awgrymu yn y gorffennol y dylid croesawu ffoaduriaid o Syria i wledydd Prydain.

Ond bellach mae e’n dweud ei fod e’n cefnogi polisi Donald Trump.

“Ers i fi wneud y sylwadau yna ry’n ni wedi cael gwallgofrwydd Merkel, a dw i’n credu bod polisi Trump mewn amryw ffyrdd wedi cael ei ffurfio ar sail yr hyn a wnaeth Mrs Merkel.

“Mae perffaith hawl ganddo fe wneud hyn, a chyn belled a’n bod ni yn y cwestiwn yn y wlad hon, hoffwn weld gwiriadau eithafol.”