Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA4.0)
Ni ddylai Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump gael dod i wledydd Prydain hyd nes ei fod yn rhoi’r gorau i wahardd trigolion gwledydd Mwslimaidd rhag mynd i’r Unol Daleithiau.

Dyna neges arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn ar raglen Peston on Sunday ar ITV heddiw.

Dywedodd Jeremy Corbyn nad yw’n iawn ei fod yn cael dod i wledydd Prydain tra bod “ymosodiadau ofnadwy” ar Fwslimiaid yn parhau.

“A yw wir yn iawn rhoi sêl bendith i rywun sydd wedi defnyddio’r iaith wreig-gasaol yma drwy gydol ei ymgyrch etholiadol, ymosodiadau ofnadwy ar Fwslimiaid, ac yna wrth gwrs y syniad abswrd yma o adeiladu wal rhyngddyn nhw a’u cymdogion agosaf?”

Dywedodd y dylid egluro bod Prydain “wedi ypsetio’n eithriadol” ac y byddai’n “anghywir” iddo gael dod i wledydd Prydain.

“Dw i ddim yn hapus iddo ddod yma hyd nes bod terfyn ar y gwaharddiad, a bod yn onest.

“Edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd yn y gwledydd hynny… Beth fydd effaith hynny ar weddill y byd?”

Ymweliad

Mae disgwyl i Donald Trump gael ei groesawu’n swyddogol gan y Frenhines yn Llundain yn ddiweddarach eleni ar ôl cael gwahoddiad gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May.

Ond mae nifer fawr o bobol yn galw am dynnu’r gwahoddiad yn ôl ar ôl i Donald Trump atal cannoedd o bobol rhag teithio i’r Unol Daleithiau o saith o wledydd Mwslimaidd.

Dywedodd Jeremy Corbyn: “Mae hi braidd yn rhyfedd ei fod e wedi cael gwahoddiad mor gyflym, yn enwedig o ystyried ei ddatganiadau, a dw i’n amau fod yr ymweliad hwn yn rhywbeth a fydd yn cael ei roi o’r neilltu.”

Dywedodd cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Paddy Ashdown ar Twitter fod “Y DYN HWNNW” yn cael ei “orfodi ar y Frenhines”.