Paul Nuttall, arweinydd Ukip, Llun: Stefan Rousseau/PA Wire
Dylai pobl Stoke-on-Trent droi at Ukip yn yr is-etholiad y mis nesaf er mwyn sicrhau ‘Brexit go-iawn’, yn ôl eu harweinydd, Paul Nuttall.

Dyna oedd ei neges wrth lansio ei ymgyrch fel ymgeisydd yn yr etholaeth ar gyfer yr is-etholiad yn sgil ymddiswyddiad yr AS Llafur Tristram Hunt i ddod yn gyfarwyddwyr amgueddfa’r V&A yn Llundain.

Fe wnaeth dros 65% o bobl Stoke bleidleisio dros Brexit yn y refferendwm ym mis Mehefin, ac mae’n ymddangos mai ef yw’r ffefryn i gipio’r sedd ar 23 Chwefror.

Ukip a ddaeth yn ail yn yr etholaeth yn yr etholiad cyffredinol yn 2015, gyda mwyafrif o ychydig dros 5,000 gan Lafur.

“Mae’r Blaid Lafur mewn llanast dros Brexit,” meddai.

“Os oes arnoch eisiau rhywun yn Nhŷ’r Cyffredinol i sefyll dros Brexit go-iawn, rheoli’n ffiniau, rheoli’n harian, rheoli’n cyllid – ewch allan i bleidleisio Ukip yn yr etholiad yma.”

Mae Llafur yn wynebu is-etholiad anodd arall yn Copeland ger Ardal y Llynnoedd yr un diwrnod.