Theresa May (llun: y Blaid Geidwadol)
Mae’r Prif Weinidog Thersa May wedi teithio i Twrci i baratoi’r ffordd am gytundebau masnach ar ôl i Brydain dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod ei hymweliad un diwrnod fe fydd yn cyfarfod yr arlywydd Recep Tayyip Erdogan a’r prif weinidog Binali Yildririm.

Wrth iddi gyrraedd y brifddinas Ankara ar ei ffordd yn ôl o Washington, dywedodd llefarydd ar ran Downing Street fod Prydain a Twrci wedi cytuno i sefydlu gweithgor ar y cyd i baratoi ar gyfer cytundeb o’r fath.

Dywedodd y llefarydd fod y Prif Weinidog yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd am fwy o fasnachu gyda Twrci a fydd ar gael ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd – er na all trafodaethau ffurfiol ddigwydd hyd nes bydd Prydain wedi gadael.

Mae’r ymgais am berthynas agosach gyda Twrci yn digwydd er gwaethaf dadleuon cyson yn erbyn hyn gan ymgyrchwyr Brexit yn y refferendwm yr haf diwethaf a’u honiadau fod Twrci ar fin ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.