Paul Nuttall, arweinydd UKIP (Llun: Stefan Rousseau/PA Wire)
Mae arweinydd plaid UKIP wedi dweud y byddai o “siŵr o fod” yn cefnogi arteithio, pe bai’n achub bywydau.

Fe wnaeth Paul Nuttall y sylwadau ar ôl i Arlywydd America, Donald Trump, awgrymu y byddai’n ail-gyflwyno rhai technegau o arteithio, gan gynnwys dŵr-fyrddio (waterboarding), sy’n gwneud i bobol deimlo fel eu bod yn boddi.

Roedd dŵr-fyrddio yn cael ei ddefnyddio yng Ngharchar Guantanamo cyn i Barack Obama ei wahardd yn 2009.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi dweud bod gwledydd Prydain yn condemnio arteithio.

“Ymladd tân gyda thân”

Ond wrth ymgyrchu mewn isetholiad yn Cumbria, dywedodd Paul Nuttall ei fod yn credu “weithiau bod angen ymladd tân gyda thân”.

“Dw i’n meddwl bod y bobol hyn yn y carchar am eu bod yn bobol ddrwg ac maen nhw eisiau gwneud niwed i ni,” meddai.

“Os bydd dŵr-fyrddio yn achub bywydau nifer o bobol yn y wlad hon, neu’n America, am fod rhywun yn cyfaddef i rywbeth sy’n mynd i ddigwydd yn nhermau ymosodiad brawychol yna drwy wasgu fy nannedd, bydda’ i siŵr o fod yn iawn â hynny.”

Pan holwyd Donald Trump am arteithio yn ei gyfweliad teledu cyntaf fel Arlywydd, dywedodd “Ydy, yn bendant mae’n gweithio.”