Mae angen i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddod o hyd i bron i £6 biliwn o arbedion ychwanegol er mwyn gallu fforddio rhoi offer iawn i filwyr, meddai swyddfa gwarchod gwariant Whitehall.

Yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae mwy o beryg i’r cynllun deng mlynedd sy’n dweud sut mae’r llywodraeth am arfogi ei lluoedd arfog, nag ar unrhyw adeg ers ei gyflwyno yn 2012.

Cynyddodd y gost o ariannu’r cynllun i £178 biliwn y llynedd – sy’n gynnydd o 7% o gymharu â chynnydd o 1.2% rhwng 2013 a 2015.

Y bai mwyaf am y cynnydd oedd bod gwerth £24.4 biliwn o ymrwymiadau ychwanegol wedi cael eu cyhoeddi yn yr Adolygiad Amddiffyn a Diogelwch Strategol.

Fe fydd tua £1.5 biliwn o arbedion yn dod o fannau eraill yn y gyllideb amddiffyn – trwy beidio codi cyflogau, neu leihau costau cynnal ystadau amddiffyn.

“Delifro’r cit gorau” i’r lluoedd arfog

Dywedodd y Gweinidog Caffael Amddiffyn, Harriet Baldwin, fod Llywodraeth San Steffan yn ymrwymedig i ddelifro’r “cit gorau i’n lluoedd arfog a rhoi’r gwerth gorau i’r trethdalwr”.

“Rydym yn canolbwyntio ar gynnal rhaglen fforddiadwy a delifro’r effeithlonrwydd sydd ei hangen arnom i fuddsoddi mewn llongau ac awyrennau o’r radd flaenaf,” meddai.

Ychwanegodd y byddai’r cynllun hefyd yn arwain at ddatblygiadau digidol a fyddai’n gwella “gallu seiber” y lluoedd arfog.