David Davis, Ysgrifennydd Brexit (Llun: Steve Punter CCA2.0)
Mae Ysgrifennydd Brexit wedi gwrthod yr awgrym o gynnal ail refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl David Davis, ni fydd hynny’n digwydd “o dan unrhyw amgylchiadau” a dywedodd y byddai’n “annemocrataidd.”

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw y bydd deddfwriaeth yn cael ei gyflwyno “o fewn dyddiau” ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl David Davis pwrpas hyn yw glynu at yr amserlen o ddechrau’r broses erbyn diwedd mis Mawrth.

Daw ei sylwadau wrth i’r Goruchaf Lys ddyfarnu heddiw fod angen sêl bendith y Senedd cyn tanio Erthygl 50, ond nad oes angen caniatâd llywodraethau datganoledig fel Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon.