Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae Nicola Sturgeon wedi dweud bod dyfarniad y Goruchaf Lys, nad oes rhaid cael caniatâd y llywodraethau datganoledig cyn dechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, yn codi “materion sylfaenol” i’r Alban.

Dywedodd y Prif Weinidog bod Llywodraeth yr Alban yn “amlwg yn siomedig” gyda’r dyfarniad.

Er bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu heddiw fod yn rhaid cael sêl bendith y Senedd cyn i’r broses ffurfiol o Brexit ddechrau, roedd y barnwyr yn gwrthod fod yn rhaid cael caniatâd llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Nicola Sturgeon eisoes wedi rhoi addewid i roi pleidlais i Aelodau Seneddol yr Alban yn Holyrood ynglŷn ag Erthygl 50, er bod dyfarniad y Goruchaf Lys yn golygu bydd yn weithred symbolaidd bellach.

‘Geiriau gwag’

Dywedodd: “mae’n dod yn fwyfwy amlwg bob dydd nad yw llais yr Alban yn cael ei glywed a bod neb yn gwrando o fewn y Deyrnas Unedig.

“Mae’r honiadau bod yr Alban yn cael ei thrin fel partner cyfartal yn amlwg yn eiriau gwag a bod sylfeini’r setliad datganoli sydd i fod i ddiogelu ein buddiannau, yn ddiwerth.

“Mae’n codi materion sylfaenol sy’n mynd y tu hwnt i aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd.

“A yw’r Alban yn fodlon i’n dyfodol gael ei benderfynu gan lywodraeth San Steffan sy’n dod yn fwyfwy asgell dde gyda dim ond un AS yma – neu a yw’n well i ni roi ein dyfodol yn ein dwylo ein hunain?

“Mae’n dod yn amlwg bod hyn yn benderfyniad mae’n rhaid i’r Alban ei wneud.”