Taflegryn Trident Llun: PA
Yn ôl adroddiadau, roedd yr Unol Daleithiau wedi gofyn i lywodraeth David Cameron i gadw manylion am fethiant honedig prawf Trident yn dawel.

Roedd technoleg o America ar fai am y problemau yn ystod y prawf ger arfordir Florida ym mis Mehefin 2016 ac roedd llywodraeth Barack Obama wedi pwyso ar y Deyrnas Unedig i beidio datgelu’r manylion, yn ôl The Times.

Mae honiadau bod taflegryn wedi gwyro i’r cyfeiriad anghywir wedi arwain at gyhuddiadau bod Theresa May yn fwriadol wedi cadw’r digwyddiad yn dawel cyn iddi ddod yn Brif Weinidog y llynedd – a hynny cyn pleidlais yn y Senedd am adnewyddu system arfau niwclear Trident.

Fe wnaeth y Prif Weinidog gymeradwyo rhaglen adnewyddu £40 biliwn Trident ym mis Gorffennaf y llynedd.