Llun: PA
Mae disgwyl i’r Goruchaf Lys gyhoeddi eu dyfarniad hirddisgwyliedig yn nodi pwy sydd â’r hawl i danio Erthygl 50 gan arwain at Brydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd 11 o farnwyr yn dod i benderfyniad ai’r Prif Weinidog, Theresa May, sydd â’r hawl hwnnw, neu a oes angen sêl bendith y Senedd.

Ym mis Tachwedd, fe ddaeth yr Uchel Lys i’r casgliad mai’r Senedd sydd â’r gair olaf wrth benderfynu a ddylai’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond fe wnaeth y Llywodraeth apelio yn erbyn y dyfarniad hwnnw a chyflwyno’r apêl i’r Goruchaf Lys.

Petai’r Goruchaf Lys yn gwrthod apêl y Llywodraeth, fe allai Aelodau Seneddol gyflwyno newidiadau i’r mesur gan gynnwys gorfodi’r Deyrnas Unedig i barhau yn y Farchnad Sengl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Theresa May wedi cyhoeddi ei bod am ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd mis Mawrth, ac mae disgwyl i’r broses bara dwy flynedd.

Y Farchnad Sengl

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru Bapur Gwyn ddoe yn amlinellu galwadau Cymru yn dilyn Brexit.

Pwysleiswyd fod parhau’n aelod o’r Farchnad Sengl yn hanfodol, ynghyd â chyflwyno system fudo ar sail swyddi.

Ond fe ddywedodd Theresa May yr wythnos diwethaf fod ei chynlluniau hi am Brexit yn cynnwys gadael y Farchnad Sengl.