Stormont Llun: PA
Mae arweinydd newydd Sinn Fein yn Stormont wedi ei phenodi yn dilyn penderfyniad Martin McGuiness i ymddiswyddo wythnos diwethaf.

Michelle O’Neill, 40 oed, sydd yn cynrychioli canol Ulster yng Nghynulliad y wlad, fydd yn cymryd awenau’r blaid weriniaethol yng Ngogledd Iwerddon ychydig wythnosau’n unig cyn cynnal  etholiad sydyn y Cynulliad.

Fe wnaeth Martin McGuiness ymddiswyddo fel Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon oherwydd y modd yr oedd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) wedi ymdrin â chynllun ynni adnewyddol.

Fe gyhoeddodd yn ddiweddarach na fyddai’n sefyll i gael ei ail-ethol oherwydd ei frwydr yn erbyn salwch difrifol.

‘Cenhedlaeth newydd’

Wrth gyhoeddi ei phenodiad dywedodd Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams bod Michelle O’Neill yn cynrychioli “cenhedlaeth newydd” i’r blaid.

Mae Michelle O’Neill, cyn-Weinidog Iechyd y blaid wedi treulio blynyddoedd yn gweithio ar faterion iechyd meddwl ac atal hunan laddiad.

Mae hi hefyd yn gyn-Weinidog Amaeth ac yn rhan o uwch gyngor y blaid, Ard Chomhairle.

Dywedodd y byddai’n parhau a “gwaith da” Martin McGuiness.