Gerry Adams (Llun: PA)
Mae honiadau arlywydd Sinn Fein, Gerry Adams y gallai Brexit niweidio Cytundeb Gwener y Groglith yn Iwerddon yn ddi-sail, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Dywedodd Gerry Adams y gallai’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd danseilio hawliau dynol, oedd yn rhan mor bwysig o’r cytundeb yn 1998.

Ond mae un o gyfreithwyr Stormont wedi dweud na fyddai’r cytundeb na’r un o’r sefydliadau sy’n cael eu heffeithio gan y cytundeb yn cael ei niweidio.

Y 27 gwladwriaeth

Dywedodd Gerry Adams y dylai Gogledd Iwerddon fod yn mwynhau perthynas gref â’r undeb o 27 o wladwriaethau ar ôl Brexit.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain: “Mae Llywodraeth y DU yn llwyr gefnogi cyflwyno Cytundeb Belfast a’i olynwyr, gan gynnwys Stormont House a Fresh Start. Ni fydd dychwelyd at ffiniau’r gorffennol.

“Rydym hefyd yn gweithio’n ddwys i sicrhau ar ôl yr etholiad i ddod, lywodraeth ddatganoledig gref a sefydlog sy’n gweithio i bawb yn cael ei ail-sefydlu yng Ngogledd Iwerddon.”

‘Gelyniaethus’

Dywedodd Gerry Adams fod penderfyniad Llywodraeth Prydain i dynnu Gogledd Iwerddon allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ewyllys y bobol yn “weithred elyniaethus”.

“Nid dim ond oherwydd goblygiadau ffiniau caled ar yr ynys hon, ond hefyd oherwydd ei effaith negyddol ar Gytundeb Gwener y Groglith.”