Arweinydd y Front National yn Ffrainc, Marine Le Pen (Llun: PA)
Mae Marine Le Pen, arweinydd y Front National yn Ffrainc, ymhlith nifer o arweinwyr pleidiau asgell dde eithafol sydd wedi ymgynnull yn yr Almaen ar gyfer cynhadledd ar drothwy nifer o etholiadau ar draws Ewrop.

Mae cynnydd wedi bod ym mhoblogrwydd pleidiau ‘poblyddol’ yn ddiweddar, gan gynnwys yng ngwledydd Prydain, lle mae UKIP wedi bod yn flaenllaw wrth i Brydain benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac maen nhw wedi’u hysbrydoli y penwythnos hwn gan urddo Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, gyda’i fuddugoliaeth yn cael ei hystyried yn llwyddiant i’r ‘bobol’ dros y ‘sefydliad’.

Wrth agor y gynhadledd, dywedodd yr arweinydd gwrth-Islamaidd Geert Wilders wrth y dorf yn Koblenz: “Ddoe, America newydd. Heddiw – helo Koblenz – Ewrop newydd!”

“Mae pobol y Gorllewin yn dihuno,” meddai, gan ychwanegu mai 2017 yw “blwyddyn y bobol”.

Gobeithion yr arweinwyr asgell dde

Mae Geert Wilders yn gobeithio y gall ei blaid ennill mwyafrif o bleidleisiau yn yr etholiad yn yr Iseldiroedd ar Fawrth 15.

Ac mae Marine Le Pen yn mynd am fuddugoliaeth i’r Front National yn Ffrainc ym misoedd Ebrill a Mai.

Ym mis Medi, fe fydd plaid Alternativ für Deutschland yn mynd am fuddugoliaeth yn yr Almaen gan geisio manteisio ar sylwadau Angela Merkel am groesawu ffoaduriaid i’r wlad.

Dywedodd Marine Le Pen wrth y dorf: “Rydym yn profi diwedd un byd a genedigaeth un arall. Rydym yn profi ymddangosiad gwladwriaethau unwaith eto.”

Mae protestwyr asgell chwith wedi bod yn dangos eu dicter yn Koblenz.