Bydd gweinidogion San Steffan yn “dinistrio darlledu Cymraeg a Chymraeg”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Mae datganoli’r maes i Gymru’n “flaenoriaeth frys” i’r Gymdeithas, sy’n lansio papur polisi manwl am adolygiad o S4C ym Mangor am 2 o’r gloch y prynhawn yma.

Mae’r papur yn amlinellu gweledigaeth y Gymdeithas o sut y gallai Cymru strwythuro’i chyfryngau o dan arweiniad y Cynulliad ym Mae Caerdydd, gan roi pwys ar strwythur llawer mwy cymunedol a chynyddu darpariaeth radio a llwyfannau digidol cymunedol.

Awdurdod newydd

Awgrym arall y Gymdeithas yw troi Awdurdod S4C yn Awdurdod Darlledu cyffredinol i fod yn gyfrifol am oruchwylio sefydlu sianel newydd yn y Gymraeg.

Yn ôl y Gymdeithas, byddai’r Awdurdod yn gyfrifol am:

  • Tair sianel deledu Gymraeg
  • Tair gorsaf radio Gymraeg
  • Dau wasanaeth newyddion aml-lwyfan Cymraeg a gynhyrchir yn fewnol
  • Cefnogaeth i fentrau cyfryngau lleol a chymunedol sy’n cynhyrchu cynnwys Cymraeg

Cyn y lansiad, sy’n rhan o gynhadledd ddigidol Hacio’r Iaith, dywedodd cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Carl Morris: “Mae’n hen bryd cael naid fawr ymlaen i’r cyfryngau yng Nghymru – ar hyn o bryd rydyn ni’n bell y tu ôl i wledydd fel Gwlad y Basg a Chatalwnia.

“Mae’r bygythiad diweddaraf i gwtogi cyllideb S4C yn profi unwaith eto nad oes modd ymddiried mewn Gweinidogion yn Llundain – does dim ots ‘da nhw am Gymru, heb sôn am Gymraeg.

“Maen nhw’n mynd i ddinistrio’r cyfryngau Cymraeg a Chymreig os nad yw pethau’n newid – mae datganoli darlledu i Gymru yn flaenoriaeth frys bellach.”

Beirniadu Ofcom

Yn ôl Carl Morris, mae Ofcom “wedi methu â gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg, ac mae’n parhau i fethu”.

Ychwanegodd y “dylid gweddnewid ac ehangu Awdurdod S4C i fod yn ‘Awdurdod Darlledu Cymru'”.

“Byddai cylch gwaith, dyletswyddau a grymoedd y corff newydd yn cynnwys hyrwyddo a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol (gan gynnwys Netflix ac Amazon Prime, er enghraifft), gyda grymoedd i osod cwotâu ar radio masnachol a theledu lleol o ran y ganran o’u darlledu sydd yn Gymraeg.

“Byddai gan yr Awdurdod newydd yma ddyletswydd dros hyrwyddo cyfryngau cymunedol, ac yn benodol rhai Cymraeg.

“Yn ychwanegol at hyn, dylid newid model S4C er mwyn iddi allu cynhyrchu gwasanaeth newyddion eu hunain neu gomisiynu cwmnïau Cymraeg i wneud hynny.”

Trafodaeth yn ‘anochel’

Yn ôl Llywodraeth Prydain, mae trafodaeth am ddatganoli darlledu yn “anochel” fel rhan o adolygiad o S4C, fydd yn cael ei gynnal eleni.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf: “Mae adolygiad o S4C yn cael ei gynnal eleni ac mae’n deg dweud bod hyn yn cynrychioli cyfle prin iawn i edrych yn fanwl ar fanylion y diwydiant darlledu yng Nghymru.

“Mae’r ddadl dros ddatganoli darlledu yn un gref iawn – mae arbenigwyr yn y maes yn cyfaddef hynny.

“Mae’r maes wedi ei ddatganoli mewn gwledydd bychain eraill, ac maent wedi defnyddio eu pwerau er lles ieithoedd lleiafrifoledig.

“Mae gyda ni gyfle drwy’r adolygiad yma felly i ddechrau cyfnod newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru, drwy ddatganoli’r maes i Gymru.

“Dyna pam rydyn ni’n lansio’r papur heddi ym Mangor – er mwyn sbarduno’r drafodaeth bellgyrhaeddol sydd ei hangen er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan. ”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus am adolygiad S4C.