Prif Weinidog Prydain, Theresa May (Llun: PA Wire)
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn ffyddiog o sicrhau cytundeb masnach â’r Unol Daleithiau, er gwaethaf polisi “America’n gyntaf” yr Arlywydd newydd, Donald Trump.

Dywedodd Theresa May y byddai’n cynnal sgwrs “agored iawn” gyda’r Arlywydd newydd pan fydd hi’n teithio i Washington yn y gwanwyn.

Mae llefarydd ar ran 10 Downing Street wedi gwadu awgrym y bydd hi’n teithio i’r Unol Daleithiau’r wythnos nesaf.

Yn ystod ei araith wrth gael ei urddo brynhawn ddoe, dywedodd yr Arlywydd newydd y byddai’n rhoi Americanwyr yn gyntaf, ac y byddai unrhyw gytundeb masnach “er lles gweithwyr a theuluoedd Americanaidd”.

‘Rhwystrau’

Mewn cyfweliad â’r Financial Times, dywedodd Theresa May ei bod hi’n hyderus o allu cynnal trafodaethau gyda Donald Trump cyn arwyddo cytundeb masnach newydd.

“Dw i’n hyderus y gallwn ni edrych ar feysydd hyd yn oed cyn gallu arwyddo cytundeb masnach ffurfiol.

“Efallai y gallen ni edrych ar rwystrau i fasnachu ar hyn o bryd a gwaredu rhai o’r rhwystrau hynny i agor y berthynas fasnachu newydd honno.”

Cafodd sylwadau Theresa May eu hategu gan yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, sydd wedi teithio i Burma.

Ond dywedodd fod rhaid i gytundeb o’r fath “weithio i Brydain hefyd”.

“Dw i’n credu bod yr Arlywydd newydd wedi egluro ei fod e am roi Prydain ar y rheng flaen o safbwynt cytundeb masnach newydd ac yn amlwg mae hynny’n gyffrous a phwysig iawn.”

Perthynas bersonol

Er gwaetha’r holl sôn am gytundeb masnach newydd, mae Theresa May wedi wfftio’r posibilrwydd o fagu perthynas bersonol â Donald Trump a fyddai’n debyg i berthynas Margaret Thatcher a Ronald Reagan.

Dywedodd nad yw hi am “efelychu” perthnasau’r gorffennol, ond ychwanegodd ei bod hi’n ffyddiog o gael “perthynas arbennig iawn” ar lefel broffesiynol gyda Donald Trump.