Theresa May
Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ceisio tawelu meddyliau arweinwyr busnes heddiw, drwy amlinellu ei chynlluniau dros Brexit yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, Y Swistir.

Mae’r cyfarfod rhwng y pennau busnes eisoes wedi clywed gan fancwyr sy’n ystyried symud swyddi o’r Deyrnas Unedig i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn pryderon am effaith gadael Ewrop.

Awgrymodd pennaeth HSBC, Stuart Gulliver, y gallai 1,000 o swyddi’r banc symud i Baris o Lundain tra bod banc yr UBS yn y Swistir yn ystyried symud ei swyddi o wledydd Prydain i’r cyfandir.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street y bydd araith Theresa May heddiw yn “gyfle i gysylltu ag amrywiaeth eang o arweinwyr a buddsoddwyr busnes o ledled y byd.”

Ychwanegodd y byddai’r Prif Weinidog yn “siarad â nhw am gynllun y Llywodraeth dros Brexit, y math o berthynas y byddwn yn ceisio cael gyda’r Undeb Ewropeaidd wrth symud ymlaen, y cyfleoedd o gryfhau ein perthynas masnach â gwledydd eraill a’r manteision y gallai hynny ddod i fusnesau.”

Y farchnad sengl

Yn ei haraith ddydd Mawrth, awgrymodd Theresa May y gallai’r cytundeb masnach rydd y bydd hi’n ceisio ei gael â Brwsel “gymryd elfennau o drefniadau presennol y farchnad sengl.”

Mae cael mynediad i’r farchnad sengl yn ffactor pwysig i gwmnïau tramor sydd wedi lleoli eu gwaith Ewropeaidd yn Llundain.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddefnyddio’r cyfarfod blynyddol yn Davos i siarad â phobol Wall Street hefyd am y problemau sy’n eu hwynebu yn dilyn adroddiadau bod Goldman Sachs yn ystyried symud cannoedd o swyddi o Lundain i Efrog Newydd a Frankfurt.