Angus Robertson
Fe fydd agwedd ‘Little Britain’ Prif Weinidog Prydain, Theresa May, at adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar swyddi a chyflogau, yn ôl yr SNP.

Mae arweinydd y blaid yn San Steffan, Angus Robertson wedi cyhuddo Theresa May o hap-chwarae â’r economi wrth geisio ‘Brexit caled’.

Ac fe ddywedodd fod holl bleidiau’r Alban yn gwrthwynebu’r penderfyniad i adael y farchnad sengl.

Mynnodd gael sicrwydd y byddai’r Alban yn cael chwarae ei rhan yn y broses o weithredu Cymal 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Angus Robertson: “Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod yr Alban yn bartner hafal yn y Deyrnas Unedig. A ydy hi’n dal i gredu bod hyn yn wir neu a yw hi’n twyllo pobol yr Alban?”

Mynnodd hi ei bod hi’n barod i gydweithio â’r holl lywodraethau datganoledig wrth benderfynu’r ffordd ymlaen yn sgil refferendwm Ewrop, gan fynnu mai’r bygythiad mwyaf i ddyfodol yr Alban yw’r alwad am ail refferendwm annibyniaeth.

“Rwy wedi cyfeirio’n benodol at y cynllun ar gyfer yr Alban. Dw i’n deall fod Llywodraeth Cymru hefyd yn cynhyrchu cynllun ar gyfer Cymru i ni gael edrych arno.

“Bydd cynllun yr Alban yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cyd-weinidogol ar drafodaethau Ewrop yfory, rwy’n credu.”

Economi’r Alban

Ond fe gyfeiriodd Angus Robertson at ragolygon economaidd sy’n darogan y byddai cyflogau’n gostwng o ganlyniad i Brexit.

Y disgwyl yw y gallai cyflogau ostwng £2,000 ac y gallai hyd at 80,000 o bobol golli eu swyddi yn yr Alban pe bai Llywodraeth Prydain yn parhau â’r polisi o ‘Brexit caled’.

Gofynnodd Angus Robertson: “A yw’r Prif Weinidog yn credu ei fod yn bris gwerth ei dalu am ei ‘Little Britain Brexit’?

Unwaith eto, cyfeiriodd at ddymuniad yr SNP i’r Alban fod yn wlad annibynnol.