Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud bod y Gorfforaeth wedi torri rheolau cywirdeb a bod yn ddiduedd wrth ymdrin â pholisi Jeremy Corbyn o ‘saethu i ladd’.

Mewn adroddiad gan Laura Kuenssberg fis Tachwedd diwethaf, roedd trafodaeth am fesurau diogelwch yn dilyn cyflafan Paris pan gafodd 130 o bobol eu lladd.

Yn ôl un gwyliwr, roedd y BBC wedi rhoi camargraff wrth gyfeirio at farn arweinydd y Blaid Lafur am ddefnyddio grym i ladd, gan awgrymu bod ei safbwynt yn groes i fesurau diogelwch Llywodraeth Prydain.

Fe ddefnyddio y BBC glip o Jeremy Corbyn heb roi cyd-destun y cyfweliad cyflawn, pan ddywedodd: “Dw i ddim yn hapus gyda pholisi saethu-i-ladd yn gyffredinol. Dw i’n credu y gall fod yn wrth-gynhyrchiol yn aml.”

Wrth olygu’r eitem, doedd y cwestiwn a gafodd ei ofyn gan y gohebydd ddim yn cyfateb i ateb Jeremy Corbyn, na chwaith yn gosod ei ateb yng nghyd-destun cyflafan Paris, fel yr oedd i fod.

Yn ôl y gwyliwr oedd wedi cwyno, roedd y BBC wedi bod yn “wleidyddol niweidiol” ac wedi rhoi’r argraff fod Jeremy Corbyn yn gwrthwynebu hawl yr heddlu i saethu i ladd yn gyfan gwbwl.

Ond roedd y BBC wedi honni nad oedd y sylwadau wedi cael eu cymryd allan o’u cyd-destun a bod Jeremy Corbyn yn deall y cwestiynau a bod ei atebion yn cael eu darlledu’n gywir ac yn ddi-duedd.

Casgliadau’r Ymddiriedolaeth

Dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC nad oedd ymgais bwriadol i gamarwain y gynulleidfa, a bod y cyfweliad cyflawn i’w weld ar wefan y Gorfforaeth.

Ond fe ddywedodd fod y BBC wedi gwneud camgymeriad gymysgu cwestiynau ac atebion wrth olygu’r eitem.

Dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC fod y gynulleidfa’n disgwyl “y cywirdeb mwyaf” wrth glywed am ddigwyddiad fel cyflafan Paris.

Dywedodd hefyd fod y Gorfforaeth wedi torri rheolau didueddrwydd gan nad oedden nhw wedi adlewyrchu atebion Jeremy Corbyn yn y modd cywir.