Boris Johnson
Nid gwanhau’r Undeb Ewropeaidd yw bwriad Llywodraeth Prydain wrth iddyn nhw drafod y telerau er mwyn iddyn nhw gael gadael yn dilyn y refferendwm, yn ôl Ysgrifennydd Tramor llywodraeth Prydain, Boris Johnson.

Yn dilyn ei haraith ddoe, mae rhai o’r farn fod Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn ceisio rhybuddio Brwsel na ddylen nhw gosbi Prydain am eu penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Theresa May y byddai’n “weithred hunan-niweidiol” pe bai’r Undeb Ewropeaidd yn ceisio gwneud esiampl o Brydain er mwyn annog gwledydd eraill i aros yn aelodau.

Yn mhapur newydd The Daily Telegraph heddiw, dywed Boris Johnson fod Llywodraeth Prydain yn ceisio cytundeb “powld ac uchelgeisiol” er mwyn cael masnachu gyda gwledydd eraill Ewrop, ond fe ddywedodd fod blaenoriaethau eraill i’w hystyried hefyd.

‘Rhannu gwerthoedd Ewropeaidd’

“R’yn ni am adeiladu partneriaeth Ewropeaidd newydd sy’n mynd y tu hwnt i fasnach rydd,” meddai Boris Johnson yn ei erthygl, “ac sy’n datblygu’r cydweithio mewn cynifer o feysydd sydd o bwys ar y ddwy ochr i’r Sianel – ynghylch diogelwch Ewropeaidd, amddiffyn a pholisi tramor.

“R’yn ni am gael partneriaeth newydd a chyfartal sy’n cryfhau’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig, ac r’yn ni’n bendant am un pwynt allweddol: nad agenda’r Deyrnas Unedig yw gwanhau na thanseilio’r Undeb Ewropeaidd.”

Dywed y byddai Llywodraeth Prydain yn “parhau i rannu gwerthoedd Ewropeaidd”, ac fe ychwanegodd y byddai’n parhau i groesawu mewnfudwyr.

Awgrymodd fod nifer o wledydd yn barod i fasnachu â gwledydd Prydain, ond y byddai’n rhaid aros tan 2019 am y cytundebau.