Jack Straw Llun:PA
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Tramor Jack Straw yn wynebu camau cyfreithiol ar ôl i ddyn o Libya a’i wraig honni bod y Deyrnas Unedig wedi cymryd rhan mewn ymgyrch i’w cipio a’u hanfon yn ôl i Tripoli mwy na degawd yn ôl.

Mae’n dilyn buddugoliaeth y cwpl yn y Goruchaf Lys yn Llundain heddiw.

Mae Jack Straw wedi cael ei enwi fel un o’r diffynyddion yn yr achos sydd wedi’i ddwyn gan Abdel Hakim Belhaj a’i wraig Fatima Boudchar, sy’n dweud eu bod nhw wedi cael eu harteithio yn y cyfnod pan oedd y Cyrnol Gaddafi mewn grym.

Roedd y Goruchaf Lys wedi gwrthod ymgais gan y Llywodraeth i atal y cwpl rhag dwyn achos yn ei herbyn.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, roedd Jack Straw wedi gwadu fod a rhan mewn unrhyw ymgais i garcharu’r cwpl yn anghyfreithlon gan ychwanegu ei fod wedi ymddwyn yn unol a’i ddyletswyddau cyfreithiol pan oedd yn Ysgifennydd Tramor.

Mae Abdel Hakim Belhaj a’i wraig hefyd wedi enwi Syr Mark Allen, a oedd yn bennaeth gwrth-frawychiaeth MI6 pan gafodd y cwpl eu cipio yn 2004.

Mae’r achos hefyd yn ymwneud a’r Swyddfa Gartref a’r Swyddfa Dramor. Maen nhw i gyd wedi gwadu unrhyw gyfrifoldeb.

Mae’r cwpl wedi cynnig derbyn £1 gan bob un o’r diffynyddion ynghyd ag ymddiheuriad a chyfaddefiad eu bod yn gyfrifol am yr hyn roedden nhw wedi ei ddioddef.

Yn ol y grŵp hawliau dynol Reprieve a theulu Belhaj cafodd y cwpl eu cipio mewn ymgyrch ar y cyd rhwng M16 a’r CIA yn dilyn cytundeb yn 2004 pan wnaeth llywodraeth Tony Blair ail-ddechrau cysylltiadau diplomyddol gyda Gaddafi.

Yn ol Reprieve, fel rhan o’r cytundeb fe fyddai gwrthwynebwyr Libya yn cael eu cipio a’u hanfon yn ol i Tripoli.